Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mawrth 2017
Amser: 09.15 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3865
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Daniel Greenberg Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru Eleanor Marks, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Claire Morris (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio cyfnod 2 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Daniel Greenberg.
3.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas a dulliau gweithredu ei ymchwiliad i feddyginiaethau gwrthseicotig a chytunodd arnynt, a chytunodd i gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus.
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar yr Adolygiad Seneddol i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gan Dr Ruth Hussey ac Eleanor Marks.
5.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried opsiynau ar gyfer gwaith craffu ar ddeddfwriaeth ar ôl deddfu, a drafodwyd gan ei Bwyllgor blaenorol yn y Pedwerydd Cynulliad.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried opsiynau ar gyfer adolygu cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn erbyn argymhellion a geir yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan ei Bwyllgor blaenorol yn y Pedwerydd Cynulliad.